Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Mai 2018

Amser: 09.05 - 10.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4756


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Tystion:

Elfed Wyn Jones, Deisebydd

Dr Elin Jones

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid gan gynnwys RSPCA Cymru, RSPB Cymru, y Gynghrair Cefn Gwlad a'r Sefydliad Ciperiaid Cenedlaethol, i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-814 Pob adeilad newydd yng Nghymru i gael paneli solar

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

 

</AI5>

<AI6>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI6>

<AI7>

3.1   P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y trafodaethau parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Tata Steel, cyhoeddiad ynghylch yr arian ar gyfer gwelliannau i'r ffatri bŵer, a'r tebygolrwydd nad oes llawer o gamau cadarn pellach y gall y Pwyllgor Deisebau eu cymryd. 

 

</AI7>

<AI8>

3.2   P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil yr ystyriaeth weithredol a roddir i welliannau ar yr A487 yng Ngheredigion a phroffil uwch y mater drwy'r ddeiseb.

 

</AI8>

<AI9>

3.3   P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

</AI9>

<AI10>

3.4   P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin a P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:

 

</AI10>

<AI11>

3.5   P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes a P-05-7922 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:

 

</AI11>

<AI12>

3.6   P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes a P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:

 

</AI12>

<AI13>

3.7   P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am fanylion am sut y sgoriodd Crymlyn yn asesiad Cam 1 o orsafoedd rheilffordd newydd posibl.

 

</AI13>

<AI14>

3.8   P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! a chytunodd i ysgrifennu at:

 

</AI14>

<AI15>

3.9   P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! a chytunodd i ysgrifennu at:

 

 

</AI15>

<AI16>

3.10P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Ar gais y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r eitem i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

</AI16>

<AI17>

3.11P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

 

</AI17>

<AI18>

3.12P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail y cafodd y newidiadau gwasanaeth y cyfeiriwyd atynt eu gwneud yn 2014 ac ymddengys nad oes fawr o botensial realistig i'r rhain gael eu gwrthdroi, yn enwedig yn sgil y cynigion diweddar ar gyfer ailgyflunio gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru a'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned.

 

</AI18>

<AI19>

3.13P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Vertex Pharmaceuticals, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i drefnu sesiynau tystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet a Vertex ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. 

 

</AI19>

<AI20>

3.14P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy’n ymgymryd ag addysg bellach

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyfredol a phenderfyniadau dilynol a wneir gan y Gweinidog cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

</AI20>

<AI21>

3.15P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:

 

·         cau'r ddeiseb oherwydd nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd; a thrwy wneud hynny

·         Cyflwyno cwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn enw Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar y materion a godwyd yn y ddeiseb. 

 

</AI21>

<AI22>

3.16P-04-683 Coed mewn Trefi

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd, ac yn sgil y gwaith a wneir ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr un pwnc â'r ddeiseb.  

 

</AI22>

<AI23>

3.17P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd, ac oherwydd rhywfaint o'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i gofio bywyd William Williams. 

Drwy wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb ac am ei waith ar y pwnc hwn.

 

</AI23>

<AI24>

3.18P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

</AI24>

<AI25>

4       Sesiwn dystiolaeth – P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Deisebydd a Dr Elin Jones.

 

</AI25>

<AI26>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod am weddill busnes heddiw:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI26>

<AI27>

6       Trafod sesiynau tystiolaeth blaenorol

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn ystod tymor yr Haf.

 

</AI27>

<AI28>

7       Trafod y dystiolaeth - P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Trafododd y Pwyllgor y crynodeb o'r dystiolaeth a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb.

</AI28>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>